Tumbling (gymnasteg)

Jordan Ramos, pencampwr Tumbling

Mae tumbling (hefyd, power tumbling) yn ddisgyblaeth gymnasteg yn gofyn am ymatebion deinamig, ymwybyddiaeth ofodol, cydsymud, cryfder a dewrder. Mae'n ymdebygu i acrobateg heb unrhyw gyfarpar. Er ei fod yn gamp gymnasteg gydnabyddiedig, nid yw'n gamp sydd wedi ennill ei blwy' yn fyd-eang ac mae'n parhau i fod yn gymharol anhysbus.[1] Ystyrir yn un o'r gampau gymnasteg artistig. Mae dynion a menywod yn cystadlu mewn tumblig ond nid yn erbyn ei gilydd.

Gellid awgrymu twmblo neu tymlan neu pendramwnaglo[2][3] fel term Cymraeg ar gyfer y gamp, ond does dim cofnod ysgrifenedig o hynny (nad unrhyw derm arall), ac mae'r termau yma yn awgrymu gweithred mwy blêr a phlentynaidd na champ gymnasteg coeth. Defnyddir tumblig mewl sawl iaith arall gan gynnwys Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, a Daneg. Gweinyddir y gamp yng Nghymru gan Gymnasteg Cymru.

  1. "What Is Power Tumbling and How Is It Different From Gymnastics?". HowTheyPlay (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-09-29.
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  3. https://geiriaduracademi.org/

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search